Kirsty Williams AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

15 Mis Mehefin 2017

 

Annwyl Kirsty

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau Gradd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Byddwch yn ymwybodol ein bod wedi ystyried y Rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 15 Mai ac wedyn wedi adrodd i'r Cynulliad gyda dau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2.

Rydym yn ddiolchgar am ymateb y llywodraeth ar y pwyntiau adrodd hyn, a ystyriwyd gennym yn ein cyfarfod ar 22 Mai.

Rydym yn fodlon ar yr esboniad mewn perthynas â'r pwynt adrodd cyntaf yn ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb.

Fodd bynnag, o ran yr ail bwynt yng nghyswllt carcharorion cymwys, rydym yn cytuno y dylai'r Rheoliadau, y Nodyn Esboniadol a'r Memorandwm Esboniadol fod yn fwy clir ar y prif bolisïau a nodir yn y Rheoliadau. Yn benodol, rhaid i berson fod yn gallu darllen y deunydd esboniadol ar ei ben ei hun a chael dealltwriaeth briodol o'r prif bolisïau heb orfod cyfeirio at y Rheoliadau eu hunain.

Rydym yn derbyn bod rhaid i berson droi at y Rheoliadau ar gyfer cofnod llawn a manwl o'r gyfraith, ond yn yr achos hwn roedd dryswch gwirioneddol ynghylch maes polisi pwysig, sef uchafswm y benthyciad y gall carcharor cymwys ei dderbyn. Dim ond drwy ddarllen y Rheoliadau y mae'n bosibl canfod y cafeat sy'n berthnasol i fenthyciadau i garcharorion cymwys.

Byddwn yn ddiolchgar, felly, pe gallech sicrhau bod deunydd esboniadol i is-ddeddfwriaeth: wedi'i ddrafftio'n gyson â'r is-ddeddfwriaeth; yn rhoi crynodeb cywir o feysydd polisi pwysig o'i ddarllen ar ei ben ei hun, ac yn cadw'r person lleyg mewn golwg.

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Jane Hutt AC, Arweinydd y Tŷ o ystyried y goblygiadau ehangach o ran drafftio deunydd esboniadol.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.